Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 19/Ebr

 

Dydd Llun 15/04/24

  • Dim neges

Dydd Mawrth 16/04/24

  • Blwyddyn 3 yn dringo Pen Dinas os yw'r tywydd yn caniatau

 

Dydd Mercher 17/04/24

  • Gwasanaeth ysgol gyfan
  • Ymarfer Cân Actol
    3:30-4:45yp
  • Clwb yr Urdd i fl.2,4a6
    3:30-4:30yp

 

Dydd Iau 18/04/24

  • Nofio i fl.5 a 3
  • Ymarfer pêl-droed i fl.5a6 3:30-4:30yp (sesiwn olaf am y tro)

 

Dydd Gwener 19/04/24

  • Ymarfer Cerddorfa Ysgol 8:45yb
  • Blwyddyn 2 mewn Gweithdy Celf yng Nghanolfan y Celfyddydau

 

LAWRLWYTHIADAU

Archif

Newyddion Rhagfyr 2012

PWY SY'N DWAD DROS Y BRYN?

Wel dyna syrpreis gafodd disgyblion Blwyddyn 2 heddiw pan ddaeth Sion Corn i ymweld yn arbennig â'u groto bach nhw er mwyn rhannu anrhegion!

Derbyniodd pob plentyn anrheg am eu bod wedi gweithio'n galed yn yr ysgol yn ystod y tymor.

Diolch yn fawr Sion Corn, a Nadolig Llawen!

 

CERDDORFA PRYDAIN

Llongyfarchiadau mawr i Sophie a Soffia am eu campau arbennig yn y maes offerynnol yn ddiweddar.

Mae Sophie o flwyddyn 6 wedi cael ei dewis i chwarae yng ngherddorfa Prydain ar gyfer disgyblion dan 11oed. Mae Sophie yn chwarae'r ffliwt.

Mae Soffia wedi cael ei dewis i fod wrth gefn yng ngherddorfa Prydain, ac yn aelod o gerddorfa rhanbarthol y De Orllewin. Mae Soffia yn chwarae'r ffidil.

Da iawn chi'ch dwy!

 

Y DOSBARTHIADAU DERBYN YM MHENTRE BACH



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (19 llun)

Bu’r Dosbarth Derbyn ar daith arbennig i Bentre Bach ar ddydd Mercher y 12fed o Ragfyr. Roedd y plant yn gyffrous dros ben wrth weld Sion Corn, Coblyn a Sali Mali.

Cafodd pawb ddiod yng nghaffi Sali Mali ac anrheg gan Sion Corn.

 

ARAD GOCH YN CYFLWYNO 'BLE MAE'R DAIL YN HEDFAN' I'R CYFNOD SYLFAEN

 

Cafodd y Cyfnod Sylfaen eu diddanu gan berfformiad arbennig o dda heddiw gan gwmni Arad Goch pan ddaethant yma i roi perfformiad o 'Ble mae'r dail yn hedfan' i ddosbarthiadau'r Meithrin a Derbyn. Yfory, tro blynyddoedd 1 a 2 fydd hi i wylio'r perfformiad.

Diolch yn fawr i Arad Goch am gyflwyniad penigamp arall gyda pherfformiad gweledol ac addysgiadol iawn ar gyfer y plant.

Ewch i wefan Arad Goch i ddarganfod beth arall cyffrous sydd ganddynt ar y gweill

 

CYNGERDD NADOLIG 2012



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (175 llun)

Roedd y Neuadd Fawr dan ei sang eleni eto wrth i blant yr ysgol berfformio sioeau'r Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 ar y llwyfan enfawr. Diolch i bawb am eu gwaith paratoi, i'r plant yn enwedig am eu perfformiadau ac i'r holl rieni, teuluoedd a ffrindiau am eu cwmni a'u cefnogaeth ar y noson

 

I archebu llun/iau cysylltwch gyda'r ffotograffydd Anthony Jarrett yma

 

CANU 'DAWEL NOS' I'N FFRINDIAU YN EWROP

 

Dyma glip o ddisgyblion Blwyddyn 3 a 4 yn canu pennill o'r garol Nadolig 'Dawel Nos'. Mae'r clip hefyd yn cael ei rannu ar wefan swyddogol ein prosiect Comenius, 'The Good Life', lle gwelir clipiau o ddisgyblion o bob un o wledydd y prosiect Ewropeaidd yn canu'r garol yn eu hieithoedd brodorol. Mae'n hyfryd iawn clywed yr un garol yn cael ei chanu mor swynol mewn gwahanol ieithoedd gan blant led led Ewrop.

 

BISGEDI BLASUS BLWYDDYN 2!

Mae dosbarthiadau Blwyddyn 2 wedi bod yn brysur iawn yn coginio yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Yn gyntaf, llenwyd adeilad yr estyniad gydag arogl mins peis hyfryd, yna heddiw, dyma arogl bisgedi hyfryd yn llenwi ffroenau pawb!

Ar ôl codi chwant bwyd ar bawb, dyma'r disgyblion yn crwydro'r ysgol yn gwerthu'r bisgedi - a'u gwerthu yn hawdd! Cynllun busnes da iawn dd'weden i!

 

TOCYNNAU'R GYNGERDD NADOLIG AR WERTH NAWR!

Bellach mae'r tocynnau ar gyfer y Gyngerdd Nadolig eleni ar werth yn yr ysgol.

Os hoffech brynu tocynnau ar gyfer y gyngerdd a fydd yn cael ei chynnal nos Fawrth yr 11eg o Ragfyr, ewch i swyddfa'r ysgol os gwelwch yn dda.

Pris y tocynnau yw £4 i oedolion a £2 i blant ysgolion Uwchradd. (Disgyblion yr Ysgol Gymraeg am ddim)

Diolch i'r holl noddwyr am eu nawdd hael.

 

ANFON CARDIAU NADOLIG AT EIN FFRINDIAU O EWROP

Yr wythnos hon bydd chwech o gardiau Nadolig arbennig iawn yn cael eu hanfon o’r Ysgol Gymraeg at ysgolion eraill ym mhob cwr o Ewrop. Fel rhan o waith ein prosiect Comenius ‘The Good Life’ byddwn yn anfon cerdyn at bob ysgol sy’n rhan o’r prosiect gyda ni – ysgolion yn y Ffindir, Denmarc, Twrci, Gweriniaeth Iwerddon, yr Eidal ac Ysgol Llwyn yr Eos yma yng Nghymru. Mae’r cardiau maint A3 yn cynnwys un dyluniad o bob blwyddyn trwy’r ysgol o blith y cannoedd o gardiau a ddyluniwyd yn wreiddiol ar gyfer Cynllun Cardiau Nadolig Blwyddyn 6.

 

 

« Newyddion Tachwedd 2012 / Newyddion Ionawr 2013 »