Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 19/Ebr

 

Dydd Llun 22/04/24

  • Ymarfer pêl-droed merched bl.5a6
    3:30-4:30yp

Dydd Mawrth 23/04/24

  • Blwyddyn 4 i Barc Coedwig Penglais
  • Ymarfer pêl-droed bechgyn bl.5a6
    3:30-4:30yp
  • Dyddiad Cau Celf a Chrefft yr Urdd

 

Dydd Mercher 24/04/24

  • Gwasanaeth ysgol gyfan
  • Blwyddyn 3 i Fferm Peithyll
  • Ymarfer Cân Actol
    3:30-4:45yp
  • Clwb yr Urdd i fl.1,3a5
    3:30-4:30yp

 

Dydd Iau 25/04/24

  • Nofio i fl.6 a 4
  • Twrnamaint Pêl-droed yr Urdd ym Mlaendolau

 

Dydd Gwener 26/04/24

  • Ymarfer Cerddorfa Ysgol 8:45yb

 

LAWRLWYTHIADAU

ARCHIF 2013

Comenius

 

Ein Prosiect Comenius

 


Cymru

Denmarc

Yr Eidal
 

Y Ffindir

Yr Iwerddon

Twrci
 

Cafodd yr ysgol wybod yn 2012 ein bod wedi derbyn grant Comenius gan Y Cyngor Prydeinig i gymryd rhan mewn prosiect Ewropeaidd a fydd yn para dros y ddwy flynedd nesaf. Hyd ddiwedd mis Mehefin 2014 byddwn yn gweithio ar y cyd ag ysgolion o bum gwlad Ewropeaidd arall ar brosiect o’r enw ‘The Good Life’. Prif bwrpas y prosiect fydd ein hannog ni fel disgyblion i ystyried yr hyn sy’n gwneud ‘bywyd da’, a’n cymell i weithredu er mwyn sicrhau'r ansawdd bywyd gorau posibl i ni ein hunain nawr ac yn y dyfodol. Byddwn yn ystyried nifer o themâu cyfoes a pherthnasol megis bwyta’n iach, cadw’n heini, gofalu am ein hamgylchedd, cynaladwyedd, creu a chynnal perthynas ag eraill, strwythur ein cymuned ysgol, ayyb.

Bob mis byddwn yn cysylltu â phlant yn yr ysgolion eraill trwy gyfrwng e-byst, Skype, llythyron, cardiau post, cardiau cyfarch ac ati er mwyn rhannu syniadau a gwybodaeth. Trwy wneud amrywiol weithgareddau byddwn yn cyflwyno darlun o’n bywydau ni yma yng Nghymru ac yn dysgu am fywydau plant yn y gwledydd eraill, gan gadw’r syniad o ‘fywyd da’ fel thema ganolog. Bydd yr holl ddisgyblion sydd ynghlwm â’r prosiect hefyd yn cyfnewid geirfa yn ein hieithoedd brodorol, ac yn dysgu oddi wrth ein gilydd am ddiwylliant, traddodiadau ac arferion y gwahanol wledydd.

Yr ysgolion sy’n rhan o’r prosiect yw:            

 

Enw'r Ysgol

Tref / Dinas

Gwlad

     
Ysgol Gymraeg Aberystwyth Ysgol Llwyn-yr-Eos
Aberystwyth
Cymru
     
Munkebjergskolen
Odense
Denmarc
     
St Maelruans Senior School
Dulyn
Gweriniaeth Iwerddon
     
Martinniemen Koulu
Martinniemi
Y Ffindir
     
Hayate Hanim İlköğretim Okulu
Alanya
Twrci
     
Istituto Comprensivo Le Cure
Fflorens
Yr Eidal

 

Elfen arall ganolog i’r prosiect fydd ymweliadau gan athrawon y gwahanol wledydd ag ysgolion ei gilydd er mwyn rhannu syniadau am ddysgu ac addysgu. Buodd Mr Williams, Miss Llwyd a Miss Gwenan Morgan ar ymweliad ag ysgol Munkebjerskolen yn ninas Odense, Denmarc ddechrau mis Hydref, ac mae taith arall i ysgol Martinniemen Koulu yng ngogledd Y Ffindir wedi ei threfnu ar gyfer diwedd mis Ionawr. Ym mis Mai 2013 byddwn yn croesawu athrawon o’r holl ysgolion eraill yma i Aberystwyth.


Miss Morgan, Miss Llwyd a Mr Williams gydag athrawon Ysgol Munkebjergskolen, Denmarc

 

Rydym eisoes wedi cychwyn ar waith y prosiect, ac un weithgaredd gyffrous mae disgyblion Blwyddyn 5 a 6 wedi bod yn rhan ohoni yn ddiweddar yw cynllunio logo swyddogol i’r prosiect. Bydd yn rhaid dewis un cynllun o blith y rhain i gynrychioli’r Ysgol Gymraeg mewn cystadleuaeth yn erbyn cynlluniau o’r chwe ysgol arall.   

 

DEWIS LOGO AR GYFER PROSIECT COMENIUS

Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae disgyblion blynyddoedd 5 a 6 wedi bod yn cynllunio logo newydd ar gyfer ein prosiect Comenius. Mae'r plant eu hunain wedi tynnu rhestr fer o'r logos mwyaf llwyddiannus sy'n cynnwys pedwar logo o bob tŷ - Arthur, Caradog a Dewi.

Sut y gallwch chi helpu...

Edrychwch ar y logos isod ac anfonwch unrhyw sylwadau atom ar e-bost, fel y gallwn ystyried eich hadborth wrth ddewis y logo fydd yn cynrychioli'r Ysgol Gymraeg.

ARTHUR :


Arthur 1

Arthur 2
 

Arthur 3

Arthur 4
 

CARADOG :


Caradog 1

Caradog 2
 

Caradog 3

Caradog 4
 

DEWI :


Dewi 1

Dewi 2
 

Dewi 3

Dewi 4

 

Ydych chi'n hoffi un neu ddau gynllun yn fwy na'r lleill? Oes gennych un ffefryn? Beth am rannu'ch barn gyda ni drwy e-bostio disgybl6@ysgolgymraeg.ceredigion.sch.uk

Diolch!

 

ENILLYDD CYSTADLEUAETH LOGO COMENIUS

Llongyfarchiadau mawr i Lisa Cowdy o flwyddyn 6 ar ennill y bleidlais ar gyfer y logo gorau i gynrychioli'r Ysgol Gymraeg yng Nghystadleuaeth Creu Logo prosiect Comenius. Enillodd logo Lisa y nifer fwyaf o bleidleisiau gan ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6, ac roedd yn boblogaidd iawn ymysg yr e-byst gan rieni hefyd.

Llwyddodd Lisa i ennill yn erbyn 85 o logos eraill a bydd hi nawr yn cystadlu yn erbyn ymgeiswyr gorau eraill ein hysgolion bartner yn Nenmarc, Twrci, Iwerddon, Y Ffindir a'r Eidal.

Pob lwc Lisa!

 

I weld y logos sy'n cynrychioli'r gwledydd eraill, ewch i dudalen swyddogol y prosiect yma

 

GWEITHGAREDDAU ADDYSG GORFFOROL GYDAG YSGOL LLWYN-YR-EOS

Heddiw bu disgyblion Blwyddyn 5 a 6 yn cymryd rhan mewn gweithgareddau addysg gorfforol ar y cyd â disgyblion Ysgol Llwyn yr Eos fel rhan o waith ein prosiect Comenius, ‘The Good Life’. Mae disgyblion y ddwy ysgol yn rhan o’r prosiect Ewropeaidd a fydd yn para dwy flynedd, ac un o’r prif amcanion yw datblygu eu hymwybyddiaeth o bwysigrwydd cadw’n iach ac yn heini. Roedd neuadd yr Ysgol Gymraeg yn llawn bwrlwm y prynhawn yma wrth i ddisgyblion Blwyddyn 6 y ddwy ysgol gystadlu’n frwd mewn gêmau potes, a chafodd disgyblion Blwyddyn 5 yr un profiad draw ar gampws Llwyn yr Eos. Yn dilyn prynhawn llawn hwyl a sbri mae’r ddwy ysgol yn edrych ymlaen yn fawr at gydweithio fel hyn eto yn y dyfodol.

 

ANFON CARDIAU NADOLIG AT EIN FFRINDIAU O EWROP

Yr wythnos hon bydd chwech o gardiau Nadolig arbennig iawn yn cael eu hanfon o’r Ysgol Gymraeg at ysgolion eraill ym mhob cwr o Ewrop. Fel rhan o waith ein prosiect Comenius ‘The Good Life’ byddwn yn anfon cerdyn at bob ysgol sy’n rhan o’r prosiect gyda ni – ysgolion yn y Ffindir, Denmarc, Twrci, Gweriniaeth Iwerddon, yr Eidal ac Ysgol Llwyn yr Eos yma yng Nghymru. Mae’r cardiau maint A3 yn cynnwys un dyluniad o bob blwyddyn trwy’r ysgol o blith y cannoedd o gardiau a ddyluniwyd yn wreiddiol ar gyfer Cynllun Cardiau Nadolig Blwyddyn 6. Yn y llun gwelir Pegi o’r Meithrin, Dafydd o’r Derbyn, Opal o Flwyddyn 1, Iestyn o Flwyddyn 2, Maria o Flwyddyn 3, Lucie o Flwyddyn 4, Courtney o Flwyddyn 5 a Gwenllian o Flwyddyn 6 gyda’r cardiau Nadolig yn barod i’w hanfon. Yn y man byddwn ninnau’n derbyn cardiau yn ôl gan ein ffrindiau o Ewrop hefyd, gobeithio - felly bydd yn rhaid i ni aros yn eiddgar am y postman bob dydd! 

 

CANU 'DAWEL NOS' I'N FFRINDIAU YN EWROP

 

Dyma glip o ddisgyblion Blwyddyn 3 a 4 yn canu pennill o'r garol Nadolig 'Dawel Nos'. Mae'r clip hefyd yn cael ei rannu ar wefan swyddogol ein prosiect Comenius, 'The Good Life', lle gwelir clipiau o ddisgyblion o bob un o wledydd y prosiect Ewropeaidd yn canu'r garol yn eu hieithoedd brodorol. Mae'n hyfryd iawn clywed yr un garol yn cael ei chanu mor swynol mewn gwahanol ieithoedd gan blant led led Ewrop.

 

PROSIECT COMENIUS : STAFF YR YSGOL YN YMWELD Â'R FFINDIR

Yr wythnos hon mae tri o aelodau staff yr ysgol yn ymweld ag ysgolion yn Y Ffindir fel rhan o waith Prosiect Comenius.

Yn y llun gwelir criw o ddisgyblion Blwyddyn 3 yn dangos y cardiau 'Blwyddyn Newydd Dda' a luniwyd ar gyfer disgyblion ysgol Martinniemen Koulu.

Hyd yma mae disgyblion yr ysgol wedi cael cyfleoedd i gyfathrebu gyda'n hysgolion bartner trwy fideo gynadledda a llythyru. Rwy'n siwr y bydd y disgyblion yn Y Ffindir wrth eu boddau yn derbyn y cardiau yma hefyd!

 

ANFON A DERBYN CARDIAU 'DIWRNOD Y PLANT'

Yr wythnos hon, bydd chwech o gardiau arbennig i nodi Diwrnod Cenedlaethol y Plant yn cael eu hanfon at ein hysgolion partner yn Ewrop, fel rhan o waith ein prosiect Comenius ‘The Good Life’. Nodir Diwrnod Cenedlaethol y Plant er mwyn annog dealltwriaeth rhwng plant o bob lliw a llun ac er mwyn hybu lles a hawliau plant ar draws y byd. I nodi dyddiad Diwrnod y Plant yn Nhwrci - un o’n hysgolion partner - ar ddiwedd mis Ebrill, yn ogystal ag un o ddyddiadau swyddogol Diwrnod Cenedlaethol y Plant yn fyd-eang ar Fehefin 1af, bydd pob un o ysgolion y prosiect yn anfon cardiau at ei gilydd yr wythnos hon.

 

YMWELWYR COMENIUS O EWROP YN YR YSGOL



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (50 llun)

Yr wythnos hon mae athrawon o Ewrop yn ymweld ag Aberystwyth fel rhan o gynllun Comenius.

A'r bore ma, croesawyd hwy i'r Ysgol Gymraeg i ddathlu mewn gwasanaeth arbennig a drefnwyd i alminellu pwysigrwydd y prosiect a'n cyfeillgarwch.

Mae'r Ysgol Gymraeg yn rhan o brosiect Comenius ar y cyd a'u hysgolion bartner sef ysgolion o Ddenmarc, Y Ffindir, Twrci, Gweriniaeth Iwerddon, Yr Eidal ac Ysgol Llwyn-yr-Eos.

Braf oedd eu croesawu i'r ysgol, lle cafodd ein hymwelwyr gyfle i grwydro'r dosbarthiadau yn ystod gwersi i gael blas o'n arferion dysgu ac addysgu yma yng Nghymru.

 

COMUS YN DYSGU A MWYNHAU GYDA PHLANT Y DERBYN

 

Ar hyn o bryd mae masgot ein prosiect Comenius Ewropeaidd, Comus, yn treulio amser gyda ni yma yn yr Ysgol Gymraeg. Cyn hyn, bu Comus yn byw gyda’n ffrindiau yn ein hysgolion partner yn Nhwrci, Denmarc, Y Ffindir ac Ysgol Llwyn yr Eos, a bydd yn parhau â’u daith pan fydd yn mynd i’r Eidal gyda staff yr ysgol ym mis Tachwedd. Yr wythnos hon, bu Comus yn brysur iawn yng nghwmni plant y Derbyn – yn dysgu peintio, ysgrifennu, canu, cyfri, adeiladu, a bwyta cinio, hyd yn oed! Bu hefyd ar daith hyfryd ar hyd Coedlan Plascrug. Mae’n siŵr y bydd gan Comus nifer o hanesion difyr i’w hadrodd wrth ei ffrindiau newydd yn yr Eidal am ei amser yn yr Ysgol Gymraeg.

 

ANFON A DERBYN CARDIAU NADOLIG O EWROP

Yr wythnos hon bydd chwech o gardiau Nadolig arbennig iawn yn cael eu hanfon o’r Ysgol Gymraeg at ein hysgolion partner ym mhob cwr o Ewrop. Fel rhan o waith ein prosiect Comenius ‘The Good Life’, byddwn yn anfon cerdyn at yr ysgolion yn y Ffindir, Denmarc, Twrci, Gweriniaeth Iwerddon, yr Eidal ac Ysgol Llwyn yr Eos yma yng Nghymru. Mae’r cardiau’n cynnwys dyluniadau gan un disgybl o bob blwyddyn trwy’r ysgol o blith y cannoedd o gardiau a ddyluniwyd yn wreiddiol ar gyfer Cynllun Cardiau Nadolig Blwyddyn 6. Cyffrous iawn hefyd yw derbyn y cardiau hyfryd sydd wedi dechrau cyrraedd oddi wrth ein ffrindiau o Ewrop.  

 

 

I ddysgu mwy am ein prosiect Comenius, ewch i wefan swyddogol y prosiect 'The Good Life' yma