Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Cynnar ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 12/Rhag

 

Dydd Llun 15/12/25

  • Cyfarfod Teams wythnosol
  • Dim nofio tan y flwyddyn newydd

Dydd Mawrth 16/12/25

  • Ymarfer Cerddorfa 8:45yb
  • Cinio Nadolig yr ysgol
  • Diwrnod siwmperi Nadolig
  • Prynhawn Agored y Meithrin (ar gyfer disgyblion newydd mis Ionawr)

 

Dydd Mercher 17/12/25

  • Dosbarth Derbyn i Drên Bach y Rheidol (digwyddiad Nadoligaidd)
  • Clwb Darllen Amser Cinio
  • Dim Clwb yr Urdd tan y flwyddyn newydd

 

Dydd Iau 18/12/25

  • Sinema ar gyfer Derbyn, Bl.1, 2, 3, 4, 5 a 6 - caslwch eich plentyn o'r Sinema rhwng tua 3:00-3:15yp
  • Dim nofio tan y flwyddyn newydd

 

Dydd Gwener 19/12/25

  • Diwrnod ola'r tymor
  • Nadolig Llawn a Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd
  • Bydd y tymor newydd yn cychwyn i blant ar ddydd Mawrth y 6ed o Ionawr 2026

 

LAWRLWYTHIADAU

Archif

Newyddion Ebrill 2013

PENCAMPWYR TWRNAMENT PÊL-DROED Y CYLCH

Llongyfarchiadau i dim pêl-droed yr ysgol ar eu llwyddiant diweddar yn nhwrnament Pêl droed ysgolion Cylch Aberystwyth.

Cynhaliwyd y twrnament ar gaeau Blaendolau gyda'r bechgyn yn llwyddo i ennill pob un o'i gêmau gan gynnwys gêm derfynol agos iawn. Roedd y gêm mor agos fel y bu'n rhaid penderfynu trwy giciau o'r smotyn.

Da iawn chi, fechgyn.

 

PENCAMPWYR TWRNAMENT PÊL-RWYD Y CYLCH

Llongyfarchiadau i dim pêl-rwyd yr ysgol ar eu llwyddiant diweddar yn nhwrnament Pêl rwyd ysgolion Cylch Aberystwyth.

Cynhaliwyd y twrnament ar gyrtiau'r Ganolfan Hamdden gyda'r plant yn llwyddo i ennill pob un o'i gêmau yn ystod y prynhawn.

Da iawn chi, blant.

 

MATHEMATEGWYR BUDDUGOL 'GÊM 24'

Llongyfarchiadau gwresog i bedwar disgybl o flwyddyn 6 ar eu camp anhygoel o ennill cystadleuaeth 'Gêm 24' ysgolion Cylch Aberystwyth eleni.

Llwyddodd Dylan, Eleanor, Lisa a Peredur i gipio'r wobr yn dilyn wythnosau o ymarfer chwarae'r gêm yn yr ysgol.

Pob hwyl i'r pedwar yn y rownd sirol a gynhelir yn Felinfach hanner tymor nesaf.

 

TWRNAMENT PÊL DROED YR URDD I FECHGYN A MERCHED


Llongyfarchiadau i dimau pêl droed bechgyn a merched yr ysgol ar gystadlu mor dda yn nhwrnament yr Urdd yn ddiweddar.

Cynhaliwyd y gêmau ar gaeau Blaendolau, gyda'r timau'n cystadlu'n frwd yn erbyn ysgolion eraill sir Ceredigion.

Diolch i'r noddwyr Emo Oil a Brodwaith FFIGAR am noddi'r citiau hynod smart.

Da iawn chi blant am ymarfer yn gyson ac am gynrychioli'r ysgol mor dda.

 

SIOE 'WCW A SWYN YR ARDD'

Cafodd disgyblion y Cyfnod Sylfaen lawer o hwyl a sbri yng Nghanolfan y Morlan wrth fwynhau sioe arbennig iawn 'Wcw a Swyn yr Ardd'.

Yn y llun gwelwch rai o gymeriadau'r sioe gyda disgyblion yr ysgol. Bu'r plant yn ymuno yn yr hwyl wrth fesur, cyfri, bloeddio cyfarwyddiadau ac helpu Wcw trwy ganu hefyd.

Diolch i Gylchgrawn Wcw a'i ffrindiau am drefnu!

 

EISTEDDFOD RHANBARTH CEREDIGION 2013


Unawd Chwythbrennau Blwyddyn 6 ac iau
1af - Sophie Neal
Unawd Llinynnol Blwyddyn 6 ac iau
2il - Sophie Neal
Ensemble Offerynnol Blwyddyn 6 ac iau
1af - Grwp Sophie
Cerddorfa/Band Blwyddyn 6 ac iau
1af - Ysgol Gymraeg Aberystwyth

Llongyfarchiadau i bawb a gymrodd ran ac a gafodd llwyddiant yn yr Eisteddfod Rhanbarth eleni. Pob hwyl iddynt yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Benfro.

Canlyniadau:
Unawd Blwyddyn 2 ac iau
2il - Lili Davies
Unawd Blwyddyn 3 a 4
1af - Llŷr Eirug
Unawd Cerdd Dant Blwyddyn 3 a 4
2il - Llŷr Eirug
Llefaru Ungiol Blwyddyn 2 ac iau
2il - Tomos Lewis Evans
Llefaru Ungiol Blwyddyn 3 a 4
1af - Cadi Williams
Grŵp Llefaru Blwyddyn 6 ac iau
2il - Ysgol Gymraeg Aberystwyth
Côr Blwyddyn 6 ac iau
1af - Ysgol Gymraeg Aberystwyth

Dawns Unigol Blwyddyn 6 ac iau
1af - Nicole Michael Pugh
Grwp Dawnsio Creadigol
1af - Ysgol Gymraeg Aberystwyth
Grwp Dawnsio Cyfrwng Cymysg
2il - Ysgol Gymraeg Aberystwyth

 

 

« Newyddion Mawrth 2012 / Newyddion Mai 2012 »