Negeseuon 
  yr Wythnos
Mae'r Clwb Cynnar ar agor yn ddyddiol o 08:15
  
► Calendr
-----------------------
► Llythyr diweddaraf y Pennaeth 24/Hydref
Dydd Llun 20/10/25
- POBURDD - ar gyfer bl.4,5&6 - os ydych yn cystadlu dewch â'ch cacen i'r Neuadd pan gyrhaeddwch yn y bore
- Cyfarfod Teams wythnosol
- Nofio i flwyddyn 6
- Noson Rieni 1 - mae dolenni eisoes wedi eu rhannu i wneud apwyntiad
 
 
Dydd Mawrth 21/10/25
- Noson Rieni 2 - mae dolenni eisoes wedi eu rhannu i wneud apwyntiad
Dydd Mercher 22/10/25
- Gwasanaeth Ysgol Gyfan
- Clwb Darllen Amser Cinio
- Clwb yr Urdd i fl. 2,5a6  3:30 – 4:30yp
 
Dydd Iau 23/10/25
- Twrnamaint Rygbi i fl.5a6** GOHIRIO
- Nofio i flwyddyn 4
- Grŵp Recorders 12:30yp
- Tîmau hoci ar y 2G
 4-5pm (gweld amserlen y tymor) **WYTHNOS HON - Y 3 TIM O'R YSGOL GYMRAEG I DDOD AM 4 O'R GLOCH**
Dydd Gwener 24/10/25
- 3:30yp - Ysgol yn cau ar gyfer gwyliau hanner tymor
- Disgo Calan Gaeaf bl.3-6 3:30-5:00yp - gweld poster
- Bydd ail hanner y tymor yn cychwyn ar ddydd Llun y 3ydd o Dachwedd
LAWRLWYTHIADAU
 Archif
| Newyddion Mehefin 2012 | |
| CWIS Y CYNGOR LLYFRAU | |
| Llongyfarchiadau mawr i'r plant a gynrychiolodd yr ysgol yn Rownd Derfynol y Cwis Llyfrau eleni. | |
| GWIBDAITH BLWYDDYN 2 | |
| Yn y bore aethom i Ganolfan y Barcud yn Nhregaron. Roeddem  yn llawn cyffro ac yn edrych ymlaen at gael gweld hen ystafell ddosbarth.  Cafodd y merched wisgo pinaffor gwyn ac yna aethom i eistedd ar feinciau tu ol i  ddesgiau pren. Roedd yn rhaid i ni siarad Saesneg yn y dosbarth neu fe fydden  ni’n gorfod gwisgo’r Welsh Not am ein gwddf. Buom yn adio ac yn adrodd tabl 2  gan ddefnyddio abacws pren. Roedd yr athro yn ysgrifennu geiriau Saesneg ar y  bwrdd du efo sialc. Cyn ateb cwestiwn roedd yn rhaid i ni ddweud ‘Please Sir..’  Cawsom gyfle i ysgrifennu ar lechen efo  sialc ac yna i ysgrifennu ar bapur efo pen ac inc. Buom yn canu Doh-Re-Mi a  chawsom gwis. Ar ôl hynny cawsom ddiod oren a chacen gry a chyfle i brynu pethau  diddorol yn y siop. Yna nôl â ni i’r bws a theithio i Fwlch Nant yr Arian.  Cawsom bicnic yno a chyfle i chwarae yn y parc. Buom yn cerdded o amgylch y  llyn gan ddilyn map, darllen cliwiau a chwilio am anifeiliaid pren. Cawsom  ddiwrnod wrth ein bodd! 
 | |
| LLUN YSGOL GYFAN | |
|  | |
| Mae'r llun ar gael i'w brynu o'r ysgol. Ewch i weld Wendy James am fwy o wybodaeth | |
| CYNGERDD HAF LWYDDIANNUS ARALL | |
| 
 | » Y Neuadd Fawr dan ei sang eleni eto wrth i holl blant yr ysgol berfformio amrywiaeth o eitemau ar y llwyfan. Diolch yn arbennig i'r Gymdeithas Rieni ac Athrawon am gynorthwyo gyda'r trefniadau ac i'r holl rieni a theuluoedd am gefnogi'r noson. Diolch yn fawr hefyd i'r holl noddwyr am eu cefnogaeth hael. 
 
 I archebu llun/iau cysylltwch gyda'r ffotograffydd Anthony Jarrett ar 01970 832726 neu gliciwch yma | 
| CYSTADLEUAETH GRICED CYLCH ABERYSTWYTH | |
| Da iawn i dîm Criced yr ysgol ar gystadlu mor dda yn nhwrnament Cylch Aberystwyth eleni. Llwyddodd y tîm i ennill y rownd gyntaf, cyn mynd ymlaen i ennill dwy gêm ac yna colli yn y gêm gyn-derfynol. Anlwcus bois! | |
| LLWYDDIANT YN EISTEDDFOD GENEDLAETHOL YR URDD ERYRI 2012 | |
|  | Llongyfarchiadau i bawb a gystadlodd yn yr eisteddfod a gynhaliwyd yng Nglynllifon eleni.  | 
| 1afCyst. 177 | |
| 1afCyst. 274  | |
| 1afCyst. 201  | |
| 2ailCyst. 245  | |
| 2ailCyst. 277 | |
| 
 | 3yddCyst. 242 | 
| ARTEFFACT BLWYDDYN 3 YN FUDDUGOL YN EISTEDDFOD GENEDLAETHOL YR URDD | |
|   | » Yr arteffact buddugol ynghyd â'r dystysgrif  | 
| PRINTIAU LLIW ELINOR YN AIL YN EISTEDDFOD GENEDLAETHOL YR URDD | |
|  | » Printiau lliw Elinor a ddaeth yn agos iawn at y brig eleni.  | 
| DIWRNOD PINC ER COF AM ANGHARAD MAIR WILLIAMS | |
| 
 | Trefnwyd 'Diwrnod Pinc' gan y Cyngor Ysgol heddiw i gofio am gyn-ddisgybl, Angharad Mair Williams a fu farw ar ddiwedd mis Tachwedd y llynedd yn 14 mlwydd oed. Roedd Angharad wrth ei bodd gyda'r lliw pinc, ac felly pa liw gwell i annog plant yr ysgol i wisgo ar ddiwrnod i'w coffau?! Diolch i bawb a gyfrannodd £1 am wisgo pinc - bydd yr arian yn cael ei gyfrannu i elusen Ysbyty Great Ormond Street, gyda rhai aelodau o staff, cyfeillion yr ysgol a theulu Angharad yn teithio i Lundain ganol mis Awst.  | 
| MAE'R CYWION WEDI HEDFAN O'R NYTH! | |
| Fore  dydd Iau diwethaf, ar ôl  bron i bedair wythnos, fe wnaeth ein cywion bach hedfan y nyth. Roedd hi’n braf  eu gweld yn tyfu’n ddigon mawr i adael ond hefyd yn drist iawn ar yr un pryd. Roedd  y ddau oedolyn wedi bod yn weithgar iawn dros yr wythnosau yn chwilio am fwyd  i’r cywion ac yn eu cadw’n gynnes, rydym yn gobeithio bod y cywion yn iawn ac  yn mwynhau eu hunain. | |
| « Newyddion Mai 2012 / Newyddion Gorffennaf 2012 » | |





 
