Negeseuon
yr Wythnos
Mae'r Clwb Cynnar ar agor yn ddyddiol o 08:15
► Llythyr diweddaraf y Pennaeth 19/Meh
Dydd Llun 15/06/26
Dydd Mawrth 16/06/26
- Dim neges
Dydd Mercher 17/06/26
- Gwasanaeth Ysgol Gyfan
- Clwb Darllen amser cinio
- Criced Cylch Aberystwyth i fl.5a6
Dydd Iau 18/06/26
- Nofio i flwyddyn 3 (prynhawn)
- Rownd derfynol Gornest Lyfrau bl.5a6
- Cyfarfod Cyhoeddus Eisteddfod yr Urdd 2029 yn Ysgol Gyfun Aberaeron 6:30yh
Dydd Gwener 19/06/26
- Sioe ‘Dosbarth Miss Prydderch’ gan Arad Goch i fl.3-6
- DYDD SADWRN - GŴYL CHWARAEON YR URDD ym Mlaendolau
Rasys trawsgwlad ar gael i bawb o fl.3-6 - cofrestrwch yma cyn 17/06 (£5)
COFRESRTRWCH YMA
2:30 - 4:00yp
LAWRLWYTHIADAU
Gair o groeso gan y Pennaeth
Croeso i chi i dudalennau gwefan Ysgol Gymraeg Aberystwyth. Dyma ysgol Gymraeg benodedig gyntaf Cymru a sefydlwyd yn 1939 gan Syr Ifan ab Owen Edwards. Saith o blant oedd yn yr ysgol yn y dyddiau cynnar ond bellach mae’r ysgol wedi tyfu i tua pedwar cant o ddisgyblion. Daw’r disgyblion atom o dref Aberystwyth ac o’r ardaloedd gwledig cyfagos.
Tyfodd yr ysgol yn gyson yn ystod yr wythdegau a’r nawdegau wrth i mwy a mwy o rieni weld gwerth mewn addysg Gymraeg. Mae yna gynnydd sylweddol yn y nifer o rieni di-Gymraeg sy’n danfon eu plant i’r ysgol wrth iddynt weld manteision dwyieithrwydd.
Mae’r Llywodraethwyr mewn cydweithrediad ag Awdurdod Addysg Ceredigion wedi cydweithio’n glòs i sicrhau adeilad addas ac adnoddau pwrpasol er mwyn diwallu’r cynnydd yn niferoedd y disgyblion. Mae yna 14 o athrawon a phymtheg o gynorthwywyr yn gweithio yn yr ysgol. Mae’r tîm yn frwdfrydig ac yn gweithio’n galed i godi safonau a gwella’r ysgol yn barhaus.
Ymfalchïwn yn safonau cyrhaeddiad uchel yr ysgol, ac mae’r ystod eang o weithgareddau allgyrsiol hefyd yn bwysig inni, gyda disgyblion yn profi llwyddiant mewn amrywiol feysydd o eisteddfodau’r Urdd i fyd chwaraeon.
Ein nod yw datblygu’r plentyn cyfan a chreu awyrgylch ddiogel, hapus a Chymreig – “fel y cadwer i’r oesoedd a ddêl y glendid a fu”. Darllenwch ymlaen am ragor o wybodaeth, ac er mwyn cael rhyw flas o fwrlwm yr ysgol brysur hon.
Mr Gareth James