Negeseuon
yr Wythnos
Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15
► Calendr
-----------------------
► Llythyr diweddaraf y Pennaeth 13/Medi
Dydd Llun 16/09/24
Dydd Mawrth 17/09/24
- Ymarfer rygbi tag ar gyfer merched bl.5a6 3:30—4:30yp
Dydd Mercher 18/09/24
- Gwasanaeth ysgol gyfan
- Ymarfer pêl-droed ar gyfer bechgyn a merched bl.5a6 3:30— 4:30yp
- Clwb yr Urdd yn cychwyn ym mis Hydref - gweler y Calendr Hanner Tymor am wybodaeth
Dydd Iau 19/09/24
- Gêmau hoci i fl.6 - dau dîm o'r ysgol yn chwarae'n wythnosol - amserlen i ddilyn
- Bydd nofion yn cychwyn ar ddiwedd mis Medi - gweler y calendr
Dydd Gwener 20/09/24
- Dim neges
LAWRLWYTHIADAU
Newyddion
Ionawr 2014 |
|
YMWELIAD GAN FARDD PLANT CYMRU |
|
Braf oedd croesawu'r bardd amryddawn, Aneirin Karadog i'n plith wrth iddo barhau ar ei daith o amgylch Cymru yn ei rôl fel y Bardd Plant Cenedlaethol. Cafodd nifer o ddisgyblion blynyddoedd 4,5 a 6 hwyl yng nghwmni Aneirin yn chwarae gydag odlau a chreu llinellau a phenillion o farddoniaeth. Datblygwyd y syniadau yn rap a chafwyd perfformiadau cofiadwy iawn gan y grwpiau o blant! Diolch yn fawr i Aneirin am ei gwmni ac i Lenyddiaeth Cymru am drefnu |
|
PENCAMPWYR PÊL-RWYD CYLCH ABERYSTWYTH |
|
Llongyfarchiadau mawr i’r tîm pêl-rwyd am ennill cystadleuaeth yr Urdd, Cylch Aberystwyth. Cynhaliwyd y gystadleuaeth yng Nghanolfan Hamdden Plascrug lle bu cystadlu brwd rhwng un ar bymtheg o ysgolion. Llwyddodd y tîm i ennill pob gêm heb ildio gôl. Bydd y tîm yn mynd ymlaen i gystadlu’n rhanbarthol yn Llangrannog ar y 7fed o Chwefror. Pob lwc i chi! |
|
GALA NOFIO CENEDLAETHOL YR URDD |
|
Llongyfarchiadau mawr i bawb a deithiodd yr holl ffordd i lawr i Gaerdydd i gynrychioli Ceredigion yng Ngala Nofio Genedlaethol yr Urdd ar ddydd Sadwrn 25ain o Ionawr. Mi nofiodd pawb yn arbennig o dda, gan lwyddo i ennill y canlyniadau canlynol:
Blwyddyn 3 a 4
Blwyddyn 5 a 6
Da iawn chi blant |
|
ERIN YW PENCAMPWRAIG COGURDD YR YSGOL |
|
I weld y casgliad llawn o luniau cliciwch yma (66 llun) |
Llongyfarchiadau gwresog i Erin o flwyddyn 5 ar lwyddo i ennill y rownd gyntaf yng nghystadleuaeth Cogurdd yr Urdd eleni. Roedd Erin yn un o 24 o ddisgyblion yr ysgol fu'n coginio salad cwscws yng Nghlwb yr Urdd, er mwyn dewis enillydd i fynd ymlaen i'r rownd nesaf yn erbyn goreuon Ceredigion. Diolch yn arbennig i brif cogydd Gwesty Cymru am ddod i feirniadu'r gystadleuaeth, diolch i'r holl ddisgyblion am gystadlu ac i'r staff hefyd am gynorthwyo. Pob hwyl i ti Erin yn Ysgol Bro Pedr ar Chwefror 20fed. |
GWASANAETH YSGOL GYFAN DAN OFAL Y PWYLLGOR IECHYD A DIOGELWCH |
|
"Bore dydd Mercher wnaethom ni fel pwyllgor iechyd a diogelwch roi cyflwyniad Powerpoint i'r ysgol gyfan ar ein gwaith ni yn ystod y flwyddyn mor belled. Dangoson ni luniau ar sut i gadw'n ddiogel o gwmpas ardal yr ysgol, a hefyd tu allan i giatiau'r ysgol, yn enwedig wrth groesi'r heol. Gobeithiwn fod y plant wedi mwynhau ein cyflwyniad, ac wedi dysgu rhywbeth hefyd." Glesni a Lisa, Blwyddyn 6 |
|
PÊL-DROED YM MLWYDDYN 2 GYDAG ACADEMI CPD ABERYSTWYTH |
|
Roedd disgyblion Blwyddyn 2 wrth eu boddau pan gafwyd ymweliad gan Stewart o Academi Clwb Pel-droed Aberystwyth heddiw er mwyn cynnal sesiwn pel-droed hwylus yn neuadd yr ysgol er mwyn annog diddordeb ymhlith y plant. Gwelwyd cynnydd sylweddol yn sgiliau'r plant yn ystod y sesiwn hefyd - a oes yma Gareth Bale y dyfodol yn ein plith tybed? Diolch yn fawr i Stewart am ddod atom ni. |
|
CLIRIO'R PROM WEDI'R STOROM FAWR |
|
Diolch i bawb a gynorthwyodd i glirio difrod y storm ar y promenâd fore dydd Sadwrn. Yn y llun gweler Mr Williams gyda nifer o ddisgyblion a chyn-ddisgyblion yr ysgol gyda'u rhieni yn gweithio'n galed yn rhofio'r tywod yn ôl i'r traeth. I wylio fideo o gyfweliad Mr Williams ar wefan y BBC, cliciwch yma |
|
LLWYDDIANT MEWN FFOTOGRAFFIAETH |
|
Llongyfarchiadau mawr i Ella o flwyddyn 3 ar ei llwyddiant anhygoel wrth ennill y categori ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd yng nghystadleuaeth FfotoAber eleni. Cynhaliwyd y gystadleuaeth ddiwedd mis Hydref, ond yn anffodus doedd dim copi o'r llun gennym i'w arddangos - tan nawr! Ond wrth weld y llun arbennig hwn, mi roedd yn werth aros amdano! Llongyfarchiadau mawr i ti Ella!
|
|
DRINGO MYNYDD KILIMANJARO |
|
Braf oedd croesawu Celyn Kenny yn ôl i'n plith (mi gofiwch i Celyn ymweld â ni nôl ym mis Mehefin y llynedd - darllen stori) Daeth Celyn â ffrind iddi y tro hwn - Gwenno Healy - a bu'r ddwy yn dangos lluniau ac yn rhannu'u profiadau gyda disgyblion yr ysgol am eu tath anhygoel i fyny mynydd Kilimanjaro fis Awst y llynedd er budd elusen Childreach International. Ar ddiwedd eu hymweliad cyflwynodd aelodau o Bwyllgor Dyngarol yr ysgol siec o £262.00 iddyn nhw - arian a godwyd trwy werthu cacennau yn nhymor yr haf y llynedd. |
|
BLWYDDYN NEWYDD DDA! |
|
« Fideo o ddisgyblion y Derbyn yn dymuno Blwyddyn Newydd Dda i bawb! |
|
« Newyddion Rhagfyr | |