Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Cynnar ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 18/Gor

 

Dydd Llun 01/09/25

  • Diwrnod H.M.S :
    Hyfforddiant ar gyfer staff
    Ysgol ar gau i blant

Dydd Mawrth 02/09/25

  • Diwrnod H.M.S :
    Hyfforddiant ar gyfer staff
    Ysgol ar gau i blant

 

Dydd Mercher 03/09/25

  • Y tymor newydd yn cychwyn i bawb
  • Croeso cynnes nôl i'r ysgol i'r mwyafrif ohonoch, a chroeso cynnes arbennig i'r disgyblion a theuluoedd newydd sy'n ymuno â ni am y tro cyntaf

 

Dydd Iau 04/09/25

  • Gwasanaeth Ysgol Gyfan
  • Dim nofio

 

Dydd Gwener 05/09/25

  • Cofiwch ddychwelyd y taflenni data (rhifau ffôn ac ati) a'r llythyr caniatâd ymweliadau erbyn heddiw os gwelwch yn dda

 

 

LAWRLWYTHIADAU

Newyddion

Gorffennaf 2014

RHANNU NEGESEUON GYDA CHYNHADLEDD NATO

Ym mis Medi bydd NATO yn dod i Gymru lle bydd y 28 aelod yn mynychu'r uwchgynhadledd.

Mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru aeth disgyblion Blwyddyn 5 ati i lunio negeseuon i'w cyflwyno i bobl megis Arlywydd America, Prif Weinidog Prydain ac Arlywydd Ffrainc - negeseuon am eu gobeithion hwy i'r dyfodol pan fyddant hwythau wedi tyfu'n oedolion eu hunain.

Tynnodd y plant luniau hefyd i fynd gyda'u negeseuon. Bydd y prosiect yn parhau ym mis Medi.

 

GWIBDEITHIAU'R MEITHRIN I 'PLAY PLANET' A PHWLL PELI PLASCRUG

Ar ddydd Mercher aeth plant trwy’r dydd a’r bore i Blaned Chwarae yn Llandre. Cafodd pawb hwyl a sbri ar y llithren, yn chwarae gyda’r teganau a’r peli. Yna i ddilyn roedd bisgedi a sudd ar gael i bawb gael ymlacio!

 

Aeth plant y prynhawn ar wibdaith i’r pwll peli yng Nghanolfan Hamdden Plascrug ar brynhawn dydd Mawrth. Cafodd pawb hwyl a sbri yn chwarae gyda’r peli ac yn mynd ar y llithren.

 

GWIBDAITH BLWYDDYN 1 I QUACKERS

Dyma ni plant blwyddyn 1 yn mwynhau ar y llithren yn ‘Quackers’!  Bu sawl un digon dewr i fentro lawr y ‘drop slide’ ac eraill wrth eu bodd yn rhedeg, cuddio a dringo.

 

CYNLLUN BUSNES IOGWRT IÂ-CHUS BLWYDDYN 3!

Yn ddiweddar mae blwyddyn 3 wedi bod yn brysur yn gweithredu eu cynllun o werthu iogwrt wedi’i rewi. Mae hyn wedi golygu llawer o waith ac rydym yn ddiolchgar iawn fod sawl cwmni a sawl rhiant wedi helpu, fel Rachel’s Dairy, Morgan's y cigydd, Morrisons ac mae ein diolch yn fawr iawn i Ultracomida am helpu gyda’r cynllun busnes ac am brynu crysau-t i roi logo Ella Jane Rees arno i hysbysebu’r fusnes. Diolch hefyd i Ffigar am greu’r crysau i ni.

 

CNEIFIO YM MLWYDDYN 3!

Daeth Llyr ap Hywel, tad Dafydd Llyr i flwyddyn 3 heddiw i ddangos i’r disgyblion sut mae cneifio oen.

Cafodd pawb eu syfrdanu pa mor gyflym roedd yn medru cneifio oen - llai na munud!

Diolch yn fawr iddo am y profiad arbennig hwn.

 

GWIBDAITH BLWYDDYN 3 I DREFACH FELINDRE A TEIFI MANIA

Cafodd Blwyddyn 3 ddiwrnod i’w gofio lawr yn Nrefach Felindre yn yr Amgueddfa Wlân ac yna’n Aberteifi yn Teifi Mania.

Cafodd y plant gyfle i wneud darn o waith ffelt. Cawsom ein tywys o gwmpas yr hen beiriannau a’r dillad amrywiol o’r degawdau a fu.

Roedd yn ddiwrnod blinedig ond llawn hwyl.

 

GWIBDAITH Y DOSBARTHIADAU DERBYN I BLANED CHWARAE A THRAETH YNYS LAS

Ar ddydd Mawrth y 15fed o Orffennaf, aeth y dosbarth Derbyn ar eu trip ysgol i’r ‘Planed Chwarae’ yn Llandre ac ymlaen i fwynhau ar y traeth yn Ynys Las.

Roedd pawb yn gyffrous iawn wrth deithio ar y bws! Wedi cyrraedd cafodd pawb lawer o hwyl a sbri yn llithro, chwarae a dringo.

Mwynhaodd pawb eu picnic blasus ac yna yn ystod y prynhawn cafodd bawb hufen ia enfawr ar y traeth yn Ynys las cyn dychwelyd i’r Ysgol.

 

DERBYN GWOBRAU CELF GAN BLASDY NANTEOS

Heddiw daeth Nigel o Blasdy Nanteos i'r ysgol er mwyn cyflwyno gwobrau Celf i ddisgyblion yr ysgol.

Yn gynharach yn y flwyddyn cynhaliwyd cystadleuaeth gan Nanteos i ddisgyblion ysgol greu llun o'r Plasdy ac yn ffodus iawn i ni daeth pob un o'r gwobrau i'r Ysgol Gymraeg!

Yn fuddugol i flwyddyn 6 oedd Ronan, gyda Betsan yn ail ac Elin yn drydydd. Yn fuddugol i flwyddyn 5 oedd Carys, gyda Molly yn ail a Gruffydd yn drydydd.

Llongyfarchiadau iddynt i gyd a diolch i Mr Griffiths am arwain y sesiynau Celf gyda'r plant.

 

GWIBDAITH BLWYDDYN 4 I YNYS HIR A MACHYNLLETH

Ar ddydd Gwener, yr unfed ar ddeg o Orffennaf aeth blwyddyn 4 ar wibdaith i Ynys Hir.

Gwarchodfa natur yw Ynys Hir sy’n gofalu am anifeiliaid, planhigion a chreaduriaid bach. Yn ystod y dydd cawsom gyfle i ddarganfod creaduriaid yn y goedwig ac efo rhwydi chwilio am greaduriaid yn y pwll dŵr. Roedd pawb wedi mwynhau’r gweithgareddau yn fawr iawn.

Ar ôl ychydig o fwyd aethom i Fachynlleth i gael sesiwn hwyl yn y pwll nofio.

 

LLWYDDIANT YN PARHAU I STEFFAN MEWN FFOTOGRAFFIAETH

Llongyfarchiadau i Steffan o flwyddyn 3 ar ei lwyddiant diweddaraf mewn ffotograffiaeth wedi iddo gyflwyno llun ar y teitl 'Reflections on flooding' i gystadleuaeth yn ddiweddar.

Enillodd Steffan y drydedd wobr mewn gwyl ffotograffiaeth a drefnwyd gan Ganolfan y Celfyddydau.

Llun o'r llifogydd yng Nghoedlan Plascrug ydyw, ac on'dyw e'n ffotograff da? Da iawn ti Steffan!

 

 
 

 

« Newyddion Mehefin