Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Cynnar ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 18/Gor

 

Dydd Llun 01/09/25

  • Diwrnod H.M.S :
    Hyfforddiant ar gyfer staff
    Ysgol ar gau i blant

Dydd Mawrth 02/09/25

  • Diwrnod H.M.S :
    Hyfforddiant ar gyfer staff
    Ysgol ar gau i blant

 

Dydd Mercher 03/09/25

  • Y tymor newydd yn cychwyn i bawb
  • Croeso cynnes nôl i'r ysgol i'r mwyafrif ohonoch, a chroeso cynnes arbennig i'r disgyblion a theuluoedd newydd sy'n ymuno â ni am y tro cyntaf

 

Dydd Iau 04/09/25

  • Gwasanaeth Ysgol Gyfan
  • Dim nofio

 

Dydd Gwener 05/09/25

  • Cofiwch ddychwelyd y taflenni data (rhifau ffôn ac ati) a'r llythyr caniatâd ymweliadau erbyn heddiw os gwelwch yn dda

 

 

LAWRLWYTHIADAU

Newyddion

Ebrill 2014

DATHLU GWAHANOL LWYDDIANNAU YN EIN GWASANAETH BOREOL

Llongyfarchiadau mawr i'r grwpiau o blant a ddaeth i ddangos eu medalau, tystysgrifau a chwpanau gan rannu eu llwyddiannau gyda ni yn ein Gwasanaeth Ysgol Gyfan bore ma.

Yn eu plith roedd brawd a chwaer - Niamh ac Iestyn yn dathlu eu campau gymnasteg; Ioan ac Iestyn yn dathlu llwyddiant mewn rygbi; Hannah Mari yn dathlu llwyddiant mewn cyfeiriannu; a'r bedair ferch Erin, Lucie, Nicole, Sofie a Lili-Gwen, gydag Erin hefyd yn dathlu llwyddiant mewn karate.

Da iawn chi i gyd!

 

GETHIN YN AIL AM LUNIO ADOLYGIAD

Llongyfarchiadau mawr i Gethin sy'n ddisgybl ym mlwyddyn 3 ar lwyddo i ddod yn ail mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan Lyfrgell y Dref a'r Adran Addysg ar Ddiwrnod y Llyfr yn ddiweddar.

Y dasg oedd i ysgrifennu adolygiad o hoff lyfr, a dewis Gethin oedd 'Minecraft : Llawlyfr i Ddechreuwyr'

Da iawn ti Gethin am lwyddo mewn cystadleuaeth lle'r oedd dros 300 o blant wedi cystadlu. Tipyn o gamp!

 

TRAWS GWLAD DYFED

<< Llun o ddisgyblion blwyddyn 4 fu'n rhedeg yng Nghystadleuaeth Traws Gwlad Dyfed.
Llongyfarchiadau i bawb a gystadlodd yng nghystadleuaeth Traws Gwlad Dyfed a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin. Llongyfarchiadau yn arbennig i Dylan James-Williams o flwyddyn 4 am ddod yn 3ydd ac i Rhys Evans o flwyddyn 5 am ddod yn 5ed yn y ras i fechgyn.
Cafwyd llwyddiant hefyd fel timau gyda thîm merched blwyddyn 5 (Alaw, Gwen a Hannah de Sousa) yn 2il, tîm bechgyn blwyddyn 5 (Rhys, Iestyn a Elis) yn 2ail a thîm bechgyn blwyddyn 4 (Isaac, Dylan a Efan Gwyn) hefyd yn 2ail.

Da iawn bawb fu'n rhedeg.

 

BLWYDDYN 4 YNG NGORSAF BŴER CWM RHEIDOL

Yn ystod yr Wythnos Wyddoniaeth eleni cafodd Blwyddyn 4 gyfle i ail ymweld â Gorsaf Bwer Cwm Rheidol er mwyn gweld yr holl waith cynhyrchu trydan sy'n digwydd yno.

Diolch i bawb a wnaeth ein tywys o gwmpas yr adeiladau gan egluro popeth yn glir i ni.

A diolch hefyd am adael i ni wisgo'r helmedi llachar oren! Roedden ni'n teimlo'n bwysig iawn!

 

FFRÂM YR AELWYD YN DYCHWELYD I'R YSGOL

Mae darn o frodwaith celfydd iawn wedi gwneud ei gartref newydd yn yr Ysgol Gymraeg.

Crewyd y brodwaith ar gyfer nodi pum mlynedd ar hugain ers sefydlu’r Aelwyd yn Aberystwyth. Mae’r gwaith yn cynnwys nifer fawr o enwau yr aelodau ac yn cwmpasu’r cyfnod o 1933 i 1958.

Mae’n cynnwys nifer o hoelion wyth ein gwlad megis Mary Vaughan Jones, T H Parry Williams ac Ifan ab Owen Edwards.

Cliciwch yma i ddarllen mwy

 

LLWYDDIANT I DÎM PÊL-RWYD YR YSGOL

Llongyfarchiadau i dim pêl-rwyd yr ysgol ar eu llwyddiant diweddar yn nhwrnament Pêl rwyd ysgolion Cylch Aberystwyth.

Cynhaliwyd y twrnament ar gyrtiau'r Ganolfan Hamdden gyda'r merched yn llwyddo i ennill pob un o'i gêmau yn ystod y prynhawn.

Da iawn chi ferched!

 

Y PWYLLGOR ECO YN DIOLCH I MORRISONS

Dymuna’r Pwyllgor Eco ddiolch i bawb am gasglu tocynnau ‘Let’s grow’ Morrisons eleni eto.

Defnyddiwyd yr 17 mil o docynnau a gasglwyd i gael nifer o offer i’r ardd a’r dosbarth.

Mae ein diolch yn fawr i Morrisons.

 

LLWYDDIANT I'R MERCHED MEWN PÊL-DROED


Llongyfarchiadau mawr i aelodau tim pêl-droed y merched ar ei llwyddiant yn nhwrnament 7 bob ochr yr Urdd yn ddiweddar.

Llwyddodd y merched i guro timau ysgolion eraill Ceredigion ar ddiwrnod prysur iawn ar gaeau Blaendolau yn Aberystwyth.

Pob hwyl iddynt wrth fynd ymlaen i'r rownd genedlaethol a fydd yn cael ei chynnal yn Aberystwyth fis nesaf.

 

GWYL AGOR DRYSAU GYDA ARAD GOCH

Yn ystod yr wythnos hon (Ebrill 1af - 4ydd) mae Arad Goch yn cynnal gwyl Agor Drysau.

Rydym yn ffodus iawn fel ysgol ein bod ni i gyd (plant y Meithrin yr holl ffordd fyny i flwyddyn 6!) yn cael gweld perfformiadau gwahanol yn ystod yr wythnos gan gychwyn gyda Georgia Ruth sy'n digwydd bod yn gyn-ddisgybl yr ysgol (gweler llun)

Cafodd y Meithrin fore llawn cerddoriaeth ac offerynnau hefyd gan arbrofi gyda nifer o offerynnau eu hunain - roedden nhw'n swnio'n wych!

Diolch yn fawr i Arad Goch am drefnu gwyl wych - ry'n ni'n edrych ymlaen i flwyddyn nesaf yn barod!

 

GWEITHDY DIOGELWCH AR Y WE

Bûm yn ffodus iawn ym mlwyddyn 6 i gael ymweliad gan fyfyrwyr y Brifysgol yn Aberystwyth i ddod i drafod am ddiogelwch ar y We gyda ni.

Mae ein defnydd ni fel plant ac oedolion ar y We yn mynd yn fwy ac yn fwy bob blwyddyn, ac felly mae'n bwysig iawn ein bod ni'n ymwybodol sut i gadw'n ddiogel tra'n defnyddio'r We, ac i ddysgu sut i ddefnyddio'r We yn synhwyrol ein hunain.

Bu trafodaethau mawr yn digwydd yn ystod y prynhawn a hoffem ddiolch i'r myfyrwyr am arwain sesiwn ddiddorol ac addysgiadol iawn.

 

 

« Newyddion Mawrth