Negeseuon
yr Wythnos
Mae'r Clwb Cynnar ar agor yn ddyddiol o 08:15
► Llythyr diweddaraf y Pennaeth 10/Gor
Dydd Llun 13/07/26
- Cyfarfod Teams ysgol gyfan dan ofal y Cyngor Ysgol
- Prynhawn Agored y Meithrin (ar gyfer plant a rhieni newydd fis Medi)
- Nofio bl.5
Dydd Mawrth 14/07/26
- Gwibdaith Haf Bl.1a2
- Gwibdaith Haf Bl.5a6
Dydd Mercher 15/07/26
- Gwasanaeth ysgol gyfan
- Clwb Darllen amser cinio
Dydd Iau 16/07/26
- Barbeciw Haf y G.Rh.A
5:00 - 7:30yh - Nofio bl.3
Dydd Gwener 17/07/26
- Diwrnod ola'r tymor
- Gwasanaeth ffarwelio Blwyddyn 6 (bore)
- Parti ffarwelio Blwyddyn 6 yn y prynhawn
- Dymunwn wyliau haf hapus i bawb. Bydd y tymor newydd yn cychwyn i blant ar ddydd Iau y 3ydd o Fedi 2026 (HMS 1af ac 2ail)
LAWRLWYTHIADAU
Beicio o Aber i Lundain
Awst 2012 |
||
ER COF AM ANGHARAD MAIR WILLIAMS |
||
![]() |
AngharadAr ddiwedd mis Tachwedd 2011, bu farw Angharad yn 14 mlwydd oed. Roedd hi'n gyfnod trist iawn i staff a disgyblion yr ysgol wrth gofio am gyn-ddisgybl hoffus a llawn bywyd er gwaethaf ei chyflwr meddygol a'r anawsterau a'i hwynebodd yn ddyddiol. Brwydrodd Angharad yn ddewr iawn gyda'i chyflwr EB drwy gydol ei bywyd, gan deithio i Ysbyty Great Ormond Street er mwyn derbyn triniaeth yn bythefnosol yn ystod ei blwyddyn olaf. Y daithEr mwyn diolch i'r ysbyty hwnnw ac mewn dathliad o fywyd Angharad rydym fel staff a chyfeillion Yr Ysgol Gymraeg wedi penderfynu beicio o'r Ysgol Gymraeg i Ysbyty Great Ormond Street yn Llundain yn ystod gwyliau'r haf eleni. Taith sydd yn 220 milltir o hyd. Bwriad y daith yw i gyflwyno siec i'r ysbyty o'r arian a godir trwy weithgareddau a drefnir gan ddisgyblion yr ysgol yn ystod tymor yr haf, a'r arian a godir trwy nawdd ar gyfer y daith feics ei hun. NoddiOs hoffech chi noddi'r achos teilwng hwn gallwch naill ai fynd i ystafell Mr Clive Williams y Pennaeth neu at Ffion yr Ysgrifenyddes i lenwi ffurflen noddi, neu gliciwch yma i gyfrannu ar dudalen JustGiving. Os ydych yn fusnes ac hoffech noddi drwy osod eich logo ar ein crysau beicio, cysylltwch â Mr Gareth James y Dirprwy drwy e-bostio gareth.james@ysgolgymraeg.ceredigion.sch.uk |
|
Oeddech chi'n gwybod?Ganwyd Angharad ar yr16eg o Orffennaf 1997 Hoff liw Angharad oedd pinc! Roedd Angharad wrth ei bodd yn tynnu coes a chwarae jôcs ar bobl! Roedd hi wrth ei bodd yn darllen, ac yn casau Mathemateg! |
||
|
||
| i ddarllen adroddiad y Diwrnod Pinc ewch i Newyddion Mehefin | ||
| i ddarllen adroddiad Diwrnod Angharad ewch i Newyddion Gorffennaf | ||
