Negeseuon
yr Wythnos
Mae'r Clwb Cynnar ar agor yn ddyddiol o 08:15
► Llythyr diweddaraf y Pennaeth 16/Hydref
Dydd Llun 19/10/26
- Cyfarfod Teams ysgol gyfan dan ofal y Cyngor Ysgol
- POBURDD i fl.4,5a6 - dewch â'ch cacen i'r Neuadd pan yn cyrraedd yr ysgol yn y bore
- Nofio i flwyddyn 6
- Noson Agored 1 - cyfle i drafod cynnydd eich plentyn
Dydd Mawrth 20/10/26
- Noson Agored 2 - cyfle i drafod cynnydd eich plentyn
Dydd Mercher 21/10/26
- Gwasanaeth ysgol gyfan
- Twrnamaint pêl-droed 5-bob-ochr ar gyfer bechgyn a merched bl.5a6
- Clwb yr Urdd i fl. 2,5a6 3:30 – 4:30yp
- COGURDD i fl.4,5a6
3:30 – 4:30pm
Dydd Iau 22/10/26
- Nofio i flwyddyn 4
- Grwpiau sillafu bl.3-6 (prynhawn)
- Disgo Calan Gaeaf y G.Rh.A - gweld llythyr
- Cynghrair hoci bl.6
4:00 - YGA1 (Craig Glais)
4:30 - YGA2 (Pen Dinas)
> (amserlen y tymor)
Dydd Gwener 23/10/26
- Diwedd hanner tymor
- Bydd yr ysgol yn ail agor ar ddydd Llun yr 2ail o Dachwedd
LAWRLWYTHIADAU
Y Cyngor Ysgol a Phwyllgorau Plant
Croeso i wybodaeth a digwyddiadau 2025-2026
CYNGOR YSGOL : PWY YDYM NI A BETH RYDYM YN EI WNEUD?
Rydym yn griw o ddisgyblion a etholwyd gan blant ein dosbarthiadau er mwyn eu cynrychioli yn y cyfarfodydd. Rydym yn cyfarfod pob mis gyda Mrs Jones lle fyddwn yn trafod gwahanol ffyrdd o wella'r ysgol ac yn trefnu gweithgareddau gwahanol hefyd.
![]() |
![]() |
![]() |
||
Guto Cynrychiolydd dosbarth Pen Dinas |
Eila Cynrychiolydd dosbarth Craig Glais |
Owen Cynrychiolydd dosbarth Pen Dinas |
||
![]() |
![]() |
![]() |
||
Iolo Cynrychiolydd dosbarth Craig Glais |
Manon Cynrychiolydd dosbarth Ystwyth |
Jonas Cynrychiolydd dosbarth Rheidol |
||
![]() |
![]() |
![]() |
||
| Jona Cynrychiolydd dosbarth Y Pier |
Parker Cynrychiolydd dosbarth Y Castell |
Lena Cynrychiolydd dosbarth Y Prom |
||
|
||||
Y PWYLLGORAU PLANT - PWY A BETH YW'R PWYLLGORAU PLANT?
Mae chwech o bwyllgorau i gyd. Penderfynwyd eu creu i glywed mwy o leisiau na llais y Cyngor Ysgol yn unig. Mae'r Pwyllgorau Plant yn cyfarfod i drafod y pethau pwysig sy'n dylanwadu ar fywyd yr ysgol, ac yn rhannu'r wybodaeth hynny gyda'r Cyngor Ysgol. Mae pob un o ddisgyblion Blwyddyn 6 ar bwyllgor sy'n golygu bod llais pawb ar frig yr ysgol yn cael ei glywed.
Pwyllgor E-ddiogelwch
Pwyllgor Eco
Pwyllgor Lles a Gorau Chwarae
Y Siarter Iaith
Pwyllgor Gwrth fwlio
Pwyllgor Dyngarol








