Negeseuon
yr Wythnos
Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15
► Calendr
-----------------------
► Llythyr diweddaraf y Pennaeth 13/Medi
Dydd Llun 16/09/24
Dydd Mawrth 17/09/24
- Ymarfer rygbi tag ar gyfer merched bl.5a6 3:30—4:30yp
Dydd Mercher 18/09/24
- Gwasanaeth ysgol gyfan
- Ymarfer pêl-droed ar gyfer bechgyn a merched bl.5a6 3:30— 4:30yp
- Clwb yr Urdd yn cychwyn ym mis Hydref - gweler y Calendr Hanner Tymor am wybodaeth
Dydd Iau 19/09/24
- Gêmau hoci i fl.6 - dau dîm o'r ysgol yn chwarae'n wythnosol - amserlen i ddilyn
- Bydd nofion yn cychwyn ar ddiwedd mis Medi - gweler y calendr
Dydd Gwener 20/09/24
- Dim neges
LAWRLWYTHIADAU
Y Cyngor Ysgol a Phwyllgorau Plant
Croeso i wybodaeth a digwyddiadau 2022-2023
CYNGOR YSGOL : PWY YDYM NI A BETH RYDYM YN EI WNEUD?
Rydym yn griw o ddisgyblion a etholwyd gan blant ein dosbarthiadau er mwyn eu cynrychioli yn y cyfarfodydd. Rydym yn cyfarfod pob mis gyda Mr James lle fyddwn yn trafod gwahanol ffyrdd o wella'r ysgol ac yn trefnu gweithgareddau gwahanol hefyd.
Llew Cynrychiolydd Bl.6 |
Gwerfyl Cynrychiolydd Bl.6 |
Iori Cynrychiolydd Bl.6 |
Martha Cynrychiolydd Bl.6 |
|||
Hans Cynrychiolydd Bl.5 |
Gwenan Cynrychiolydd Bl.5 |
Osian Cynrychiolydd Bl.4 |
Leusa Cynrychiolydd Bl.4 |
|||
Jac Cynrychiolydd Bl.3 |
Beca Cynrychiolydd Bl.3 |
|||||
Medi 2022 |
Cofnodion y Cyfarfod Cychwynnol |
||
Cafwyd cyfarfod cychwynnol o’r Cyngor Ysgol i drafod pa bwyllgorau plant fydd yr aelodau yn mynychu eu cyfarfodydd yn ystod y flwyddyn. Penderfynwyd rhannu yr aelodau fel hyn: |
|||
Iori Gwenan Martha Llew Hans Gwerfyl Osian a Leusa Jac a Beca |
Pwyllgor E-ddiogelwch (dan ofal Mr Wyn) Pwyllgor Eco (dan ofal Mrs B Davies) Pwyllgor Taclo’r Toiledau (dan ofal Mrs Hughes) Pwyllgor Gorau Chwarae – Cyd Chwarae (dan ofal Mr Jones) Pwyllgor Llesiant (dan ofal Mr Griffiths) Y Siarter Iaith (dan ofal Mrs S Davies) Pwyllgor Gwrth fwlio (dan ofal Mrs Ellis) Pwyllgor Dyngarol (dan ofal Mrs Wigley) |
||
Tasg gyntaf y Cyngor Ysgol fydd mynychu’r cyfarfodydd hyn a’u cynorthwyo i fwydo i mewn i’r cynllun ar gyfer y tymor.
Cafwyd sgwrs ynglŷn â gwerthu gwisg ysgol ail-law wrth y giât yn y boreau. Edrychwyd yn y bocsys dillad coll a gweld bod llawer wedi cael eu cyfrannu i'r ysgol a dillad heb enwau arnynt. Penderfynwyd y byddwn yn ceisio agor stondin un bore yr wythnos. Yr enw a benderfynwyd arno oedd 'Y Lein Ddillad'. |
|||
Hydref 2022 |
Cofnodion y Cyfarfod |
||
Croesawyd pawb i’r cyfarfod a chytunwyd y dylwn ethol swyddogion ar gyfer y pwyllgor.
Mae'r stondin 'Y Lein Ddillad' yn llwyddiannus iawn! Mae nifer helaeth o rieni wedi bod yn prynu gwisg ail-law yn y boreau, ac ers agor y stondin rydym wedi derbyn llythyr gan y Gweinidog Addysg Jeremy Miles yn annog ysgolion i wneud hyn - sef ceisio lleihau costau ar gyfer teuluoedd. Rydym wedi casglu £51 yn barod. Byddwn yn trafod yn nes at y Nadolig beth i'w wneud gyda'r arian yr ydym yn ei godi.
|
|||
Criw 'Y Lein Ddillad' un bore o Hydref :-) |
|||
|
|||
Hydref 2022 |
Cofnodion y Cyfarfod |
||
Cafwyd cyfarfod yn ystafell Mr James amser cinio am gymeriadau y 4 diben. Ar ôl gwaith arbennig gan blant blwyddyn 2 a 6 yn creu 4 cymeriad yr un, fe yrron nhw'r syniadau i gyd at gwmni proffesiynol a wnaeth eu troi i mewn i 4 cymeriad anhygoel! Ar ôl i'r cyngor ysgol drafod am dipyn, fe benderfynon ni wneud cwpwl o newidiadau i'r cymeriadau. Fe benderfynon bod angen i'r cymeriadau wisgo siwmperi yr ysgol i gysylltu nhw gyda'r ysgol, a'u bod yn perthyn i'w gilydd. Hefyd newidwyd lliwiau rhai o ddarnau y cymeriadau. Ychwanegon ni hefyd Y.G.A i bêl rygbi i ddangos ochr chwaraeon yr ysgol. Gobeithiwn mewn ychydig o ddiwrnodau y bydd y cymeriadau yn ôl wedi eu gwella ac yn anhygoel o wych :-) (cofnodion gan Gwerfyl a Martha) |
|||
Aelodau'r Cyngor Ysgol yn trafod cymeriadau'r Pedwar Diben
|
|||
Tachwedd 2022 |
Cofnodion digwyddiad |
||
Un bore roedd yn rhaid i ni gyrraedd yr ysgol yn gynnar am 8:15 y bore er mwyn cwrdd gyda gweddill y Cyngor Ysgol, hefyd Cyngor Ysgol Plascrug a'r ddau Bennaeth sef Mr Williams a Mr Lewis. Daeth dynes Iechayd a Diogelwch i gwrdd gyda ni hefyd, sef Ann lloyd. Yn gyntaf cerddon ni lawr i'r Ganolfan Hamdden er mwyn gweld llif y traffig yno, yna aethom ar daith nôl ar hyd yr hewl i'r Ysgol Gymraeg a lawr tua Ysgol Plascrug. Sylwon ni fod lot fawr o bobl yn parcio ar y llinellau melyn, bod yna lot o draffic yno, a'i bod hi'n brysur iawn iawn. Byddwn yn cwrdd eto cyn hir. (cofnodion gan Llew) |
|||
|
|||
Rhagfyr 2022 |
Cofnodion digwyddiad |
||
Llongyfarchiadau mawr i Bwyllgor y Siarter Iaith ar eu gwaith campus yn ennill achrediad y Cam Aur fel rhan o Siarter Iaith Ceredigion. |
|||
|
Y PWYLLGORAU PLANT - PWY A BETH YW'R PWYLLGORAU PLANT?
Mae wyth o bwyllgorau i gyd. Penderfynwyd eu creu i glywed mwy o leisiau na llais y Cyngor Ysgol yn unig. Mae'r Pwyllgorau Plant yn cyfarfod i drafod y pethau pwysig sy'n dylanwadu ar fywyd yr ysgol, ac yn rhannu'r wybodaeth hynny gyda'r Cyngor Ysgol. Mae pob un o ddisgyblion Blwyddyn 6 ar bwyllgor sy'n golygu bod llais pawb ar frig yr ysgol yn cael ei glywed.
> Pwyllgor E-ddiogelwch
> Pwyllgor Eco
> Pwyllgor Taclo’r Toiledau
> Pwyllgor Gorau Chwarae – Cyd Chwarae
> Pwyllgor Llesiant
> Y Siarter Iaith
> Pwyllgor Gwrth fwlio
> Pwyllgor Dyngarol